4 Mehefin 2000
Annwyl Nick,
Effaith ariannol pandemig COVID-19
Diolch i chi am eich llythyr ar 7 Mai 2020, yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor ynglŷn â’r trefniadau y mae eich swyddfa wedi'u rhoi ar waith i fynd i’r afael ag effaith pandemig y coronafeirws (COVID-19).
Mae'r Pwyllgor yn cydnabod y camau rydych wedi'u rhoi ar waith i osgoi ychwanegu pwysau pellach ar wasanaethau cyhoeddus, gan sicrhau hefyd fod eich swyddfa yn parhau i fod ar agor ac yn hygyrch i'r cyhoedd.
O ganlyniad i’r pandemig bu’n rhaid newid arferion gwaith y rhan fwyaf o sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus ac mae'r Pwyllgor yn awyddus i ddeall effaith COVID-19 ar y cyrff a ariennir yn uniongyrchol drwy Gronfa Gyfunol Cymru. Byddwn yn ddiolchgar pe gallech rannu’r wybodaeth ddiweddaraf â’r Pwyllgor ynglŷn â’r effaith y mae Covid-19 wedi'i chael ar y sefyllfa ariannol eleni, gan gynnwys unrhyw arbedion a chostau ychwanegol. Er bod y Pwyllgor yn gwerthfawrogi y gallai unrhyw arbedion o ganlyniad i newidiadau mewn arferion gwaith gael eu gwrthbwyso gan gostau eraill, byddai'n ddefnyddiol cael dadansoddiad llawn i’n galluogi i ystyried y goblygiadau ariannol yn llawn.
Byddai'n ddefnyddiol cael eich ymateb erbyn 7 Gorffennaf.
Yn gywir
Llyr Gruffydd AC
Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid
Croesewir gohebiaeth yn Gymraeg neu'n Saesneg / We welcome correspondence in Welsh or English.